Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad
y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser
y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (137) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.22
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i Hybu Twf a Swyddi – Adroddiad Blynyddol 2013
Dechreuodd yr eitem am 14.33
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Datganiad Polisi ar Addysg Uwch
Dechreuodd yr eitem am 15.08
5 Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013
Dechreuodd yr eitem am 15.51
NDM5261 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013
Dechreuodd yr eitem am 15.52
NDM5131 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl: Y frech goch a phwysigrwydd rhaglenni brechu
Dechreuodd yr eitem am 15.59
NDM5260 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch; a
2. Yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni brechu plant.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn mynegi ei ddiolch i staff gweithgar Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a swyddogion cyhoeddus eraill yn Abertawe ac mewn mannau eraill am y gwaith y maent wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r achosion o'r frech goch.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ymholiad cyhoeddus llawn ac annibynnol er mwyn dysgu gwersi yn sgîl yr achosion hyn, ac i leihau’r tebygrwydd o ragor o achosion yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
42 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder ynghylch arferion rhai cwmnïau preifat o ran marchnata brechlynnau heb eu trwyddedu a phresgripsiwn yn unig, ac am yr honiadau camarweiniol a wnaethpwyd gan rai clinigau brechiad sengl ynghylch y brechlyn MMR cyfun.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5260 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch; a
2. Yn mynegi ei ddiolch i staff gweithgar Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a swyddogion cyhoeddus eraill yn Abertawe ac mewn mannau eraill am y gwaith y maent wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r achosion o'r frech goch.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni brechu plant.
4. Yn mynegi pryder ynghylch arferion rhai cwmnïau preifat o ran marchnata brechlynnau heb eu trwyddedu a phresgripsiwn yn unig, ac am yr honiadau camarweiniol a wnaethpwyd gan rai clinigau brechiad sengl ynghylch y brechlyn MMR cyfun.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 16.37
Cafodd y cyfarfod ei ohirio a’i ail-gynnull am 16.42 ar gyfer y Cyfnod Pleidleisio.
8 Dadl Fer - gohiriwyd o 8 Mai 2013
Dechreuodd yr eitem am 16.44
NDM5234 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Gwybod am y Gwenyn: Rôl gwyddoniaeth o ran gwarchod iechyd gwenyn fel peillwyr.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:10
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 12 Mehefin 2013